Hawlio Budd-dal Plant
Trosolwg
Cewch Fudd-dal Plant os ydych yn gyfrifol am un neu fwy o blant o dan 16 oed (neu o dan 20 oed, os yw’n parhau ag addysg neu hyfforddiant cymeradwy). Nid oes terfyn ar nifer y plant y gallwch hawlio ar eu cyfer.
Mae’r canllaw hwn hefyd ar gael yn Saesneg (English).
Dim ond un person all gael Budd-dal Plant ar gyfer plentyn.
Rhaid i chi roi gwybod am unrhyw newid mewn amgylchiadau i’r Swyddfa Budd-dal Plant.
Efallai y bydd yn rhaid i chi dalu tâl treth os yw’ch incwm unigol chi (neu’ch partner) dros £50,000.
Gallwch ddewis peidio â chael taliadau Budd-dal Plant, ond dylech lenwi’r ffurflen hawlio o hyd oherwydd:
- bydd yn eich helpu i gael credydau Yswiriant Gwladol sy’n cyfrif tuag at eich Pensiwn y Wladwriaeth
- bydd yn sicrhau bod eich plentyn wedi’i gofrestru i gael rhif Yswiriant Gwladol pan fydd yn 16 oed.