Trethu’ch cerbyd
Trethu’ch car, beic modur neu gerbyd arall gan ddefnyddio’ch llythyr atgoffa (V11W).
Os nad oes gennych lythyr atgoffa, gallwch ddefnyddio:
- tystysgrif gofrestru V5CW (llyfr log) sydd yn eich enw chi – cael un arall os nad oes gennych un
- eich atodiad ceidwad newydd (V5C/2) os ydych newydd brynu’r cerbyd
- eich llythyr rhybudd ‘cyfle olaf’
Mae’r dudalen hon ar gael hefyd yn Saesneg (English).
Ffyrdd eraill o wneud cais
Dros y ffôn
Rhif ffôn: 0300 123 4321
Cael gwybod mwy am gost galwadau
Yn Swyddfa’r Post
Ewch i’ch cangen leol o Swyddfa’r Post sy’n delio gyda threth cerbyd. Bydd angen taliad ar gyfer eich treth cerbyd ac un o’r canlynol arnoch:
- eich llythyr atgoffa treth cerbyd (V11W)
- tystysgrif gofrestru (V5CW) yn eich enw
- atodiad ceidwad newydd (V5C/2W), os ydych newydd brynu’r cerbyd
Mae’n bosib y bydd hefyd angen arnoch:
- eich tystysgrif prawf MOT (rhaid i’r dystysgrif fod yn ddilys pan fydd y
- dreth yn dechrau)
- tystysgrif lygredd is ddilys
Yng Ngogledd Iwerddon bydd angen tystysgrif yswiriant neu yswiriant dros dro arnoch hefyd.
Gwneud HOS
Os nad ydych yn cadw neu’n defnyddio’ch cerbyd ar ffyrdd cyhoeddus, gallwch wneud HOS (Hysbysiad Oddi ar y Ffordd) yn lle ei drethu.