Adnewyddu treth cerbyd
BETA Mae’r rhan hon o gov.uk yn cael ei hailadeiladu - yma fe gewch wybod beth mae hyn yn ei olygu i chi.
Gwneud cais drwy ddefnyddio’r gwasanaeth newydd
Bydd angen un o’r canlynol arnoch i wneud cais ar-lein:
- y cyfeirnod 16 digid ar eich llythyr adnewyddu treth cerbyd (V11)
- y cyfeirnod 11 digid ar eich llyfr log (V5C)
- y cyfeirnod 12 digid ar eich Atodiad Ceidwad Newydd (V5C/2) os ydych chi newydd brynu’ch cerbyd
This page is also available in English.
Dechrau nawr ar wefan DVLA
Ffyrdd eraill o wneud cais
Dros y ffôn
Rhif ffôn: 0300 123 4321
Ffôn testun: 0300 790 6201
Mae galwadau i rifau 03 yn costio tua:
2 geiniog i 10 ceiniog o linellau tir
10 ceiniog i 40 ceiniog o ffonau symudol
Rhagor o wybodaeth am brisiau galwadau
Yn Swyddfa’r Post
Ewch i’ch cangen leol o Swyddfa’r Post sy’n delio gyda threth cerbyd. Bydd angen y canlynol arnoch:
- eich ffurflen atgoffa V11 wedi’i llenwi (neu eich V5C)
- tystysgrif prawf MOT os oes angen (rhaid i’r dystysgrif fod yn ddilys pan fydd y dreth yn dechrau)
- y taliad a ddangosir ar y ffurflen atgoffa
Yng Ngogledd Iwerddon bydd angen tystysgrif yswiriant neu yswiriant dros dro arnoch hefyd.