Treth y talwch ar eich incwm yw Treth Incwm. Nid yw’n rhaid i chi dalu treth ar bob math o incwm.
Rydych yn talu treth ar bethau fel:
- arian a enillir gennych o gyflogaeth
- elw a wneir gennych os ydych yn hunangyflogedig
- rhai budd-daliadau’r wladwriaeth
- y rhan fwyaf o bensiynau, gan gynnwys pensiynau’r wladwriaeth, pensiynau cwmni, pensiynau personol a blwydd-daliadau ymddeol
- llog ar gynilion a bondiau pensiynwyr
- incwm rhent (oni bai eich bod yn landlord sy’n byw yn y cartref a’n cael £4,250 neu lai)
- buddiannau a gewch yn sgil eich swydd
- incwm o ymddiriedolaeth
- difidendau o gyfranddaliadau mewn cwmni
Nid ydych yn talu treth ar bethau fel:
- incwm o gyfrifon sy’n rhydd o dreth, fel Cyfrifon Cynilo Unigolyn (ISAs) a Thystysgrifau Cynilion Cenedlaethol
- rhai budd-daliadau’r wladwriaeth
- gwobrau bondiau premiwm neu’r Loteri Genedlaethol
- y £4,250 cyntaf o’r rhent a gewch gan letywr yn eich cartref
Lwfansau a rhyddhad Treth Incwm
Mae’r rhan fwyaf o bobl yn y DU yn cael Lwfans Personol, ar ffurf incwm sy’n rhydd o dreth. Dyma swm yr incwm y gallwch ei dderbyn cyn bod yn rhaid i chi dalu treth.
Yn ogystal, gellir gostwng swm y dreth a delir gennych, drwy gyfrwng rhyddhad treth, os ydych yn gymwys i’w dderbyn.
2. Sut rydych yn talu Treth Incwm
Talu Wrth Ennill (TWE)
Mae’r rhan fwyaf o bobl yn talu Treth Incwm drwy TWE. Hon yw’r system a ddefnyddir gan eich cyflogwr neu’ch darparwr pensiwn er mwyn didynnu Treth Incwm a chyfraniadau Yswiriant Gwladol cyn eu bod yn talu eich cyflogau neu’ch pensiwn. Mae eich cod treth yn rhoi gwybod i’ch cyflogwr faint i’w ddidynnu.
Gall eich cod treth ddwyn budd-daliadau’r wladwriaeth i ystyriaeth, felly os oes arnoch dreth ar y rheiny (e.e. Pensiwn y Wladwriaeth), fel arfer, caiff ei didynnu’n awtomatig o’ch incwm arall.
Ffurflenni treth Hunanasesiad
Os yw eich materion ariannol yn fwy cymhleth (e.e. os ydych yn hunangyflogedig neu fod gennych incwm uchel), mae’n bosib bydd yn rhaid i chi dalu Treth Incwm ac Yswiriant Gwladol drwy’r drefn Hunanasesiad. Bydd yn rhaid i chi lenwi ffurflen dreth bob blwyddyn.
Treth Incwm ar gynilion a llog ar fuddsoddiadau
Fel arfer, caiff Treth Incwm ei chymryd o log ar gynilion a buddsoddiadau yn awtomatig.
Incwm na chaiff ei drethu’n awtomatig
Mae’n rhaid i chi lenwi ffurflen dreth os yw’ch incwm sydd heb ei drethu’n fwy na £2,500, neu os nad ydych yn talu treth drwy gyfrwng eich cyflog neu’ch pensiwn. Os yw’n llai na £2,500, mae’n rhaid i chi gysylltu â‘r Ganolfan Gyswllt Cymraeg.
3. Budd-daliadau'r wladwriaeth sy'n rhydd o dreth, a rhai trethadwy
Budd-daliadau trethadwy’r wladwriaeth
Dyma’r budd-daliadau mwyaf cyffredin rydych yn talu Treth Incwm arnynt:
- Pensiwn y Wladwriaeth
- Lwfans Ceisio Gwaith
- Lwfans Gofalwr
- Lwfans Cyflogaeth a Chymorth (yn seiliedig ar gyfraniadau)
- Budd-dal Analluogrwydd (o’r 29ain wythnos ymlaen)
- Lwfans Profedigaeth
- Pensiynau a delir gan y cynllun Budd-dal Marwolaeth Ddiwydiannol
- Lwfans Rhiant Gweddw
- Pensiwn gwraig weddw
Budd-daliadau’r Wladwriaeth sy’n rhydd o dreth
Dyma’r budd-daliadau mwyaf cyffredin nad oes yn rhaid i chi dalu Treth Incwm arnynt:
- Budd-dal Tai
- Lwfans Cyflogaeth a Chymorth (yn seiliedig ar incwm)
- Cymhorthdal Incwm - er ei bod yn bosib y bydd yn rhaid i chi dalu treth ar Gymhorthdal Incwm, os ydych yn cymryd rhan mewn streic
- Credyd Treth Gwaith
- Credyd Treth Plant
- Lwfans Byw i’r Anabl
- Budd-dal Plant (ar sail incwm - defnyddiwch y gyfrifiannell treth i weld a fydd yn rhaid i chi dalu treth)
- Lwfans Gwarcheidwad
- Lwfans Gweini
- Credyd Pensiwn
- Taliadau Tanwydd Gaeaf a Bonws Nadolig
- Trwydded teledu rhad ac am ddim i’r sawl sy’n 75 mlwydd oed neu’n hŷn
- Cyfandaliadau profedigaeth
- Lwfans Mamolaeth
- Budd-dal Anafiadau Diwydiannol
- Lwfans Anabledd Difrifol
- Credyd Cynhwysol
- Pensiwn Rhyfel Gwraig Weddw
- Lwfans Pontio i Berson Ifanc
4. Cyfrifo a oes yn rhaid i chi dalu Treth Incwm
Er mwyn cyfrifo a ddylech fod yn talu Treth Incwm, dilynwch y camau hyn.
-
Adiwch eich holl incwm trethadwy ynghyd, gan gynnwys budd-daliadau trethadwy’r wladwriaeth.
-
Cyfrifwch eich lwfansau rhydd o dreth.
-
Tynnwch eich lwfansau rhydd o dreth o’ch incwm trethadwy.
Os oes unrhyw beth yn weddill, rydych yn drethdalwr. Cysylltwch â‘r Ganolfan Gyswllt Cymraeg, os nad ydych eisoes yn talu treth.
Os nad oes unrhyw beth yn weddill, ni ddylech fod yn talu treth ac mae’n bosib bod ad-daliad yn ddyledus i chi.
5. Gwiriwch eich bod yn talu'r swm cywir
Er mwyn gweld a ydych yn talu’r swm cywir o Dreth Incwm, gall y rhan fwyaf o bobl ddefnyddio gwiriwr treth Cyllid a Thollau EM.
Os na allwch ddefnyddio’r gwiriwr (e.e. am eich bod yn hunangyflogedig), gallwch wirio a ydych wedi talu’r dreth gywir drwy gysylltu, neu ofyn am gymorth gan gyfrifydd.