Rhaid i chi drethu eich cerbyd ac arddangos disg treth. I wneud hyn ar-lein mae angen i chi fod yn geidwad cofrestredig y cerbyd. Gallwch adnewyddu eich treth unrhyw ddiwrnod ar ôl 5ed diwrnod y mis pan ddaw i ben.
This page is also available in English.
Yr hyn mae angen i chi ei wybod
Dechrau nawr ar ar wefan DVLA
Gallwch dalu am dreth car ar-lein neu dros y ffôn os:
- chi yw ceidwad cofrestredig y cerbyd ac mae gan DVLA eich enw, eich cyfeiriad a’ch manylion diweddaraf
- oes gennych chi eich llythyr atgoffa V11 (V85/1 ar gyfer cerbydau nwyddau trwm (HGV)) neu dystysgrif cofrestru V5C
- oes gennych yswiriant dilys
- oes gennych MOT, prawf Cerbyd Nwyddau neu Gerbyd Gwasanaeth i Deithwyr (PSV) (os oes ei angen) – rhaid i hwn fod yn ddilys pan fydd y ddisg dreth yn dod i rym
- oes gennych chi gerdyn debyd neu gredyd (codir £2.50 am ddefnyddio cerdyn credyd ond mae defnyddio cerdyn debyd am ddim)
Dylech chi gael eich disg treth newydd yn y post cyn pen 5 diwrnod gwaith.
Hawlio eithriad oherwydd anabledd
Bydd angen i chi gael eich Tystysgrif Hawl, neu dystysgrif eithrio DLA404, MHS330 neu WPA0442.
Mae gennych chi hawl i gael Tystysgrif Hawl neu dystysgrif eithrio os ydych chi’n cael un o’r canlynol:
- cyfradd uwch elfen symudedd y Lwfans Byw i’r Anabl (DLA)
- Atodiad Symudedd Pensiwn Rhyfel
Cysylltwch â’r llinell gymorth budd-daliadau anabledd neu’r Uned Lwfans Byw i’r Anabl os nad oes gennych chi un.
Bydd hefyd angen i chi gael cyfenw, dyddiad geni a rhif Yswiriant Gwladol y sawl sy’n dal y dystysgrif eithrio ynghyd â rhif cyfresol y dystysgrif. Fydd ddim angen cerdyn credyd na debyd arnoch chi os ydych chi’n gwneud cais i drethu eich cerbyd yn y dosbarth treth anabl.
Os ydych chi’n trethu yn y dosbarth treth anabl am y tro cyntaf allwch chi ddim gwneud hyn ar-lein na dros y ffôn. Dim ond yn un o ganghennau’r Swyddfa’r Post sy’n rhoi disgiau treth mae modd gwneud hyn.
Drwy’r post neu mewn Swyddfa Bost
Ewch â’ch ffurflen atgoffa V11 i unrhyw Swyddfa Bost sy’n rhoi disgiau treth neu ei phostio i’r cyfeiriad a ddangosir ar y ffurflen.
Cofiwch anfon y canlynol neu fynd â nhw gyda chi:
- llythyr atgoffa V11 wedi’i lenwi
- tystysgrif yswiriant neu nodyn yswiriant dros dro
- tystysgrif MOT os oes angen (rhaid iddi fod yn ddilys pan fydd y ddisg treth yn dechrau)
- y taliad a ddangosir ar y llythyr atgoffa (os oes angen)
Cerbydau nwyddau trwm – yn swyddfa’r DVLA
Ewch â’ch llythyr atgoffa V85/1 i’ch swyddfa leol DVLA. Bydd angen i chi fynd â’r canlynol gyda chi hefyd:
- tystysgrif cofrestru cerbyd (V5C)
- tystysgrif yswiriant ddilys neu nodyn yswiriant dros dro
- tystysgrif brawf MOT, Cerbyd Nwyddau neu Gerbyd Gwasanaeth i Deithwyr (PSV) ddilys
- tystysgrif platio – os nad oes gennych chi’r dystysgrif cofrestru neu os yw’r cerbyd wedi cael ei ail-blatio ers cyhoeddi’r dreth ddiwethaf
- tystysgrif llygredd is ddilys (os oes angen)
- y taliad a ddangosir ar y llythyr atgoffa (os oes angen)
Os nad oes gennych chi eich llythyr atgoffa V11 neu V85/1
Gallwch dalu treth cerbyd drwy ddefnyddio’r ffurflen V10 neu ffurflen V85 ar gyfer Cerbydau Nwyddau Trwm (HGVs).
Bydd angen tystysgrif cofrestru V5C arnoch chi i wneud cais drwy ddefnyddio ffurflen V10 neu V85, ond os nad oes gennych chi un, gallwch chi wneud cais am un.
GOV.UK