Cwestiynau cyffredin
Os na chewch ateb i'ch cwestiwn isod,cysylltwch â ni.
Cliciwch ar y cwestiwn i weld yr ateb
Cwestiynau
- Beth yw Archif Gwefannau'r DU?
- Pam fod angen archif gwefannau?
- At bwy yr anelir Archif Gwefannau'r DU?
- Pa mor fawr yw'r archif?
- Pa mor aml y cesglir gwefannau?
- Sut ydych chi'n chwilio drwy Archif Gwefannau'r DU?
- Pa sefydliadau sy'n gyfrifol am Archif Gwefannau'r DU?
- Sut y detholir gwefannau?
- A ofynnir am ganiatâd cyn archifo gwefannau?
- A yw'r ddeddfwriaeth Adnau Cyfreithiol yn berthnasol i wefannau?
- A gaiff gwefannau"dibwys" eu cynnwys?
- A yw Archif Gwefannau'r DU yn cymeradwyo gwefannau?
- Ble cedwir yr archif?
- All unrhyw un enwebu gwefan yn y DU?
- Pam fod rhai gwefannau a archifwyd yn absennol, yn anghyflawn neu'n ymddangos yn rhyfedd?
- Sut alla i dynnu fy ngwefan neu eiddo deallusol arall o'r archif?
- Sut alla i ddiogelu fy mhreifatrwydd os oes gwybodaeth amdanaf yn archif?
- Alla i greu dolen gyswllt i Archif Gwefannau'r DU?
- A oes archifau gwefannau eraill?
- Pryd fydd fy safle yn ymddangos yn yr archif?
Atebion
-
Beth yw Archif Gwefannau'r DU? Mae Archif Gwefannau'r DU yn cynnwys gwefannau sy'n cyhoeddi ymchwil, sy'n adlewyrchu amrywiaeth y bywydau, diddordebau a gweithgareddau a geir ledled y DU, ac yn dangos arloesedd ar y we. Mae hyn yn cynnwys gwefannau "llenyddiaeth lwyd" y rhai sy'n cynnwys sesiynau briffio, adroddiadau, datganiadau polisi, a ffurfiau eraill o wybodaeth fyrhoedlog ond arwyddocaol.
Mae cyfranwyr Archif Gwefannau'r DU yn gofyn am ganiatâd gan berchennog pob gwefan a roddir yn yr archif. Mae hyn yn ddrud ac yn anodd (mae llawer o berchnogion anwybyddu'r cais) ac felly rydym wedi bod yn lobïo'r Llywodraeth i gyflwyno'r rheoliadau angenrheidiol a fuasai'n galluogi'r Archif i gasglu holl wefannau'r DU sydd o fewn ei chwmpas yn awtomatig. Mae gan y Llyfrgell Brydeinig a "llyfrgelloedd adnau cyfreithiol" eraill yr hawl i wneud hynny, mewn egwyddor, dan Ddeddf Llyfrgelloedd Adnau Cyfreithiol 2003 ond mae angen rheoliad cyfreithiol arall cyn rhoi cychwyn arni.
Ymwelir â gwefannau dro ar ôl tro a chymerir cipluniau ('enghreifftiau') ohonynt yn rheolaidd, ac yn sgil hynny gall darllenwyr weld sut mae gwefannau'n esblygu dros amser.
Gallwch weld yr archif yn rhad ac am ddim a chael mynediad uniongyrchol ati ar y We, ac fe gasglwyd miloedd o wefannau ers dechrau archifo yn 2004.
-
Pam fod angen Archif Gwefannau? Ceir miliynau o wefannau yn y DU. Maent yn newid yn gyson a hyd yn oed yn diflannu. Yn aml maent yn cynnwys gwybodaeth sydd ar gael ar y We yn unig. Gallai "twll du digidol" ddatblygu, ac wrth ymateb i'r her honno mae archifau gwefannau'n diogelu cynifer o'r gwefannau hynny ag sy'n ymarferol. Diben Archif Gwefannau'r DU yw casglu gwefannau, eu cadw a galluogi pobl i gael mynediad parhaol iddynt am genedlaethau i ddod.
-
At bwy yr anelir Archif Gwefannau'r DU? Mae croeso i bawb ddefnyddio Archif Gwefannau'r DU ac enwebu gwefannau nad ydynt eto yn y casgliadau
Lluniwyd Archif Gwefannau'r DU i apelio at amrywiaeth eang o ddefnyddwyr gyda gwahanol ddiddordebau a gwybodaeth: darllenwyr cyffredinol, athrawon, newyddiadurwyr, gwneuthurwyr polisïau, ymchwilwyr academaidd a phersonol, yn ogystal â llawer o bobl eraill. Bwriedir hefyd y bydd defnyddwyr pennaf yr Archif yn cynnwys y bobl hynny a gynrychiolir gan y gwefannau eu hunain, sydd eu hunain yn cynrychioli holl amrywiaeth y DU.
Bydd y rhan helaeth o ddefnyddwyr yn dod o hyd i wefannau yn yr archif sydd a wnelo â'u maes diddordeb neu bwnc penodol, a allai gynnwys gwybodaeth na chyflwynir bellach ar y wefan fyw gyfatebol. Weithiau ni fydd y wefan fyw yn bodoli mwyach: mewn achosion felly, mae'n debygol mai Archif Gwefannau'r DU fydd yn dal yr unig gopi sydd ar ôl. Oherwydd pwysigrwydd diwylliannol y We ynddo'i hun, bydd ymchwilwyr gweld Archif Gwefannau'r DU yn ddiddorol dros ben. Bydd perchnogion y gwefannau eu hunain yn defnyddio'r Archif i gael gafael ar wybodaeth sydd wedi mynd ar goll o fersiynau blaenorol eu gwefannau.
-
Pa mor fawr yw'r archif? Gweler y dudalen Ystadegau'r Archif am ffigyrau cyfredol ar faint yr archif..
-
Pa mor aml y cesglir gwefannau? Fel arfer cesglir gwefannau bob chwe mis, ond gall hynny amrywio gan ddibynnu ar y tebygolrwydd y bydd newid yng nghynnwys neu gwmpas unrhyw Gasgliad Arbennig penodol.
Caiff rhai gwefannau eu harchifo unwaith yn unig, er enghraifft, oherwydd eu bod ar fin cau ac ond yn cyflwyno deunydd na fydd yn newid eto.
Penderfynir pob achos yn unigol.
-
Sut ydych chi'n chwilio drwy Archif Gwefannau'r DU? O dan Cymorth gyda Chwilio ceir gwybodaeth fanwl ar sut i chwilio drwy Archif Gwefannau'r DU
-
Pa sefydliadau sy'n gyfrifol am Archif Gwefannau'r DU? Darperir Archif Gwefannau'r DU gan y Llyfrgell Brydeinig mewn partneriaeth â Llyfrgell Genedlaethol Cymru, JISC a Llyfrgell Wellcome. Bu'r Archif Genedlaethol a Llyfrgell Genedlaethol yr Alban hefyd yn cymryd rhan yn y gorffennol. Mae'r Llyfrgell Brydeinig hefyd yn gweithio gyda'r Asiantaeth Ddatblygu Celf Byw, Llyfrgell Cymdeithas y Cyfeillion, Llyfrgell y Menywod ym Mhrifysgol Fetropolitan Llundain a sefydliadau allweddol eraill i greu Casgliadau Arbennig o fewn Archif Gwefannau'r DU.
-
Sut y detholir gwefannau? Mae cyfranwyr Archif Gwefannau'r DU yn dethol gwefannau ar sail eu polisïau eu hunain ar ddatblygu casgliadau a'u meysydd arbenigedd penodol. Ystyrir fod y gwefannau a ddetholir o fudd hirdymor ar gyfer ymchwil, naill ai ynddynt eu hunain neu fel rhan o Gasgliad Arbennig o ddeunyddiau ar thema benodol. Fel arfer, mae'r gwefannau yn yr Archif yn cynnwys gwefannau sy'n cyhoeddi ymchwil, sy'n adlewyrchu amrywiaeth y bywydau, diddordebau a gweithgareddau a geir ledled y DU, ac yn dangos arloesedd ar y we. Fe'u detholir i gynrychioli amrywiaeth o weithgareddau cymdeithasol, gwleidyddol, diwylliannol, crefyddol, gwyddonol neu economaidd. Mae croeso i'r cyhoedd, gan gynnwys perchnogion y gwefannau eu hunain enwebu gwefan i'w chynnwys yr archif.
-
A ofynnir am ganiatâd cyn archifo gwefannau? Mae cyfranwyr Archif Gwefannau'r DU yn gofyn am ganiatâd gan berchennog pob gwefan yn yr archif oni bai bod y wefan yn datgan y rhoddir caniatâd eisoes (er enghraifft, drwy Drwydded 'Creative Commons') neu os yw'r cyfrannwr eisoes yn meddu ar hawl i'r safle (er enghraifft, mae'r Llyfrgell Brydeinig yn archifo'i gwefan ei hun). Mae gofyn caniatâd yn broses ddrud ac anodd (mae llawer o berchnogion yn anwybyddu'r cais), ac felly mae'r sefydliadau archifo wedi bod yn lobïo'r Llywodraeth i gyflwyno'r rheoliadau angenrheidiol a fuasai'n galluogi'r archif i gasglu holl wefannau'r DU sydd o fewn ei chwmpas yn awtomatig. Mae gan y Llyfrgell Brydeinig a "llyfrgelloedd adnau cyfreithiol" " eraill yr hawl i wneud hynny, mewn egwyddor, dan Ddeddf Llyfrgelloedd Adnau Cyfreithiol 2003, ond mae angen rheoliad cyfreithiol arall cyn rhoi cychwyn arni.
-
A yw'r ddeddfwriaeth Adnau Cyfreithiol yn berthnasol i wefannau? Bu i Ddeddf Llyfrgelloedd Adnau Cyfreithiol 2003 ehangu hawliau Llyfrgelloedd Adnau Cyfreithiol i gasglu cyhoeddiadau ar-lein, yn amodol ar reoliadau sy'n ofynnol dan y Ddeddf ac yn unol â phenderfyniadau'r Llywodraeth. Mae'r broses o lunio rheoliadau o'r fath yn parhau i fod ar y gweill ac felly mae cyfranwyr Archif Gwefannau'r DU yn gofyn am ganiatâd cyn archifo gwefannau yn y DU. Llyfrgelloedd Adnau Cyfreithiol y DU yw'r Llyfrgell Brydeinig, Llyfrgell Genedlaethol yr Alban, Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Llyfrgell Bodley, Rhydychen a Llyfrgell Prifysgol Caergrawnt. Mae'r Llyfrgell Brydeinig wrthi'n paratoi'r isadeiledd technegol i gynnal gwaith cywain ar raddfa fwy, fel y buasai'r rheoliadau'n ei ganiatáu.
-
A gaiff gwefannau "dibwys" eu cynnwys? Nodwedd oddrychol yw 'dibwysedd' Mae Archif Gwefannau'r DU yn cymryd golwg eang wrth gasglu gwefannau ac yn ceisio creu casgliad cyffredinol cytbwys cyn belled ag y bo'n ymarferol. Bydd rhai gwefannau yn yr archif yn hollti barn rhwng y defnyddwyr hynny sy'n credu eu bod yn amhriodol, a'r rhai hynny sy'n credu eu bod yn agweddau arwyddocaol ar fywyd cyfoes a ddiogelir ar gyfer ymchwilwyr y dyfodol.
-
A yw Archif Gwefannau'r DU yn cymeradwyo gwefannau? Na. Detholir gwefannau ar draws y sbectrwm o'r hyn sy'n gyfreithlon o ran barn a gwleidyddiaeth, gan roi sylw i bob ochr unrhyw ddadleuon penodol. Mae'r gwefannau yn yr archif hefyd yn amrywio o ran pa mor soffistigedig yw eu diwyg: o wefannau sylfaenol at yr hyn sy'n cyfateb i gyhoeddiadau 'gloyw'.
-
Ble cedwir yr archif? Cedwir Archif Gwefannau'r DU drwy gytundeb allanol gyda chanolfan ddata masnachol. Serch hynny, mae cynlluniau ar y gweill i'w chadw o fewn System Lyfrgell Ddigidol y Llyfrgell Brydeinig.
-
All unrhyw un enwebu gwefan yn y DU? Gallant, ac os oes gennych chi ffefryn o blith gwefannau'r DU ac yn dymuno awgrymu iddi gael ei chynnwys yn yr archif, mae croeso cynnes i chi enwebu'r wefan honno. Os ydych yn berchen ar wefan yn y DU, fe'ch anogir yn arbennig i enwebu'ch gwefan eich hun: bydd hyn yn gwneud y broses o gael caniatâd mor syml â phosib. Fodd bynnag, noder ein bod yn cadw'r hawl i benderfynu a ddylid cynnwys y wefan ai peidio, ac am resymau technegol efallai na fyddwn yn gallu archifo pob gwefan.
-
Pam fod rhai gwefannau a archifwyd yn absennol, yn anghyflawn neu'n ymddangos yn rhyfedd? Nid yw rhai gwefannau wedi cael eu dethol eto: mae croeso i chi enwebu gwefan nad ydyw yn yr archif ond y credwch y dylai fod. Weithiau mae gwefannau wedi cael eu nodi eisoes, ond nid yw perchennog y wefan wedi ymateb i gais i'w harchifo, neu (yn anaml iawn) maent wedi gwrthod.
Cesglir gwefannau ar adegau penodol gan feddalwedd cywain, a'r bwriad yw adlewyrchu mor gyflawn ag y bo modd sut roedd y wefan yn ymddwyn yn edrych ar y Rhyngrwyd bryd hynny. Gwneir ymdrech i gasglu'r holl wrthrychau sy'n gysylltiedig â gwefannau gan gynnwys html, delweddau, dogfennau PDF, ffeiliau sain a fideo a gwrthrychau eraill megis sgriptiau rhaglennu.
Fodd bynnag, er bod Archif Gwefannau'r DU yn defnyddio ymlusgwyr o'r radd flaenaf, mae iddynt rai cyfyngiadau technegol ac ar hyn o bryd nid ydynt yn medru casglu cyfryngau sy'n llifo, cynnwys y we ddofn neu gronfeydd data sy'n gofyn am fewnbwn defnyddwyr, elfennau rhyngweithiol yn seiliedig ar sgriptiau rhaglennu neu gynnwys nad yw'n gweithio heb ategion. Mae hyn yn golygu na fydd elfennau penodol rhai o'r gwefannau yn yr archif yn bresennol.
Hefyd, mae rhai o'r gwefannau sydd wedi eu harchifo yn anghyflawn gan mai dim ond un dudalen o'r wefan a fwriadwyd ei rhoi yn yr archif. Gall hyn fod oherwydd y math o ganiatâd a ddyfernir ar gyfer archifo neu gallai'r detholwr fod wedi ystyried y dudalen unigol yn ddigonol i gynrychioli un agwedd o fewn Casgliad Arbennig.
Yn olaf, mae gwefannau yn aml yn cynnwys dolenni cyswllt i wefannau eraill ac nid yw bob amser yn amlwg i'r defnyddiwr eu bod yn gwneud hynny. Oni bai bod y wefan y cysylltir â hi hefyd wedi'i harchifo gan Archif Gwefannau'r DU, pan fydd defnyddwyr yn clicio ar y ddolen gyswllt byddant yn cael neges "Adnodd Ddim yn yr Archif".
Lluniwyd yr archif i gefnogi cynifer o borwyr â phosibl, ond weithiau bydd porwyr gwahanol yn arddangos gwefannau mewn gwahanol ffyrdd: rhowch gynnig ar wahanol borwr os ydych yn cael anawsterau gydag ymddangosiad gwefannau.
-
Sut fedraf gael fy ngwefan neu unrhyw eiddo deallusol arall wedi’i ddileu o’r archif? Yr ydym yn parchu hawliau eiddo deallusol (HED) a phreifatrwydd data. Yr ydym yn ceisio’r caniatâd priodol gan ddeiliaid hawliau ac yn gweithredu Trefn Hysbysu a Nodi sy’n ein hysbysu i dynnu gwefannau oddi ar Archif Gwefannau’r DU dan amgylchiadau priodol.
-
Sut alla i ddiogelu fy mhreifatrwydd os oes gwybodaeth amdanaf yn archif? Mae'n bwysig i unrhyw unigolyn sy'n cyflwyno gwaith i'r cyhoedd ar y Rhyngrwyd fod yn ofalus gyda'u gwybodaeth bersonol a gwybodaeth pobl eraill. Mae Archif Gwefannau'r DU yn casglu tudalennau gwe sydd ar gael yn rhydd ac yn agored ar y Rhyngrwyd. Nid yw'r Archif yn casglu tudalennau sydd angen cyfrinair i gael mynediad iddynt (oni bai fod caniatâd penodol wedi ei roi), tudalennau y mae eu perchnogion wedi'u tagio er mwyn "eithrio robotiaid" tudalennau sydd ond ar gael pan fydd unigolion yn teipio ar ffurflen a'i hanfon, na thudalennau ar weinyddion diogel megis mewnrwydi.
Fodd bynnag, os oes gennych unrhyw ymholiadau am ddeunydd yn yr archif y credwch y gallai amharu ar eich preifatrwydd, a href="/ukwa/info/contact/cy">cysylltwch Ċ'r Archif.
-
Alla i greu dolen gyswllt i Archif Gwefannau'r DU? Gallwch. Dilynwch y cyfarwyddiadau a roddir dan Gwybodaeth Dechnegol.
-
A oes archifau gwefannau eraill? Oes. Mae nifer o wledydd a sefydliadau wedi datblygu archifau gwefannau, pob un ohonynt gyda'u dulliau eu hunain ac yn amrywio o ran hygyrchedd. Gweler Dolenni Cyswllt am fwy o wybodaeth.
-
Pryd fydd fy safle yn ymddangos yn yr archif? Cyn gynted ag sy'n ymarferol bosibl, ond byddwch yn amyneddgar gan fod angen i ni ledaenu ein hamserlenni archifo er mwyn cynnal effeithlonrwydd yn gyffredinol. Mae gofyn hefyd i wefannau fynd trwy broses sicrhau ansawdd ar ôl iddynt gael eu cywain: mae hynny'n sicrhau fod yr holl elfennau y gellir eu harchifo o wefannau yn trosglwyddo'n iawn. Cysylltwch â'r Archif os oes gennych ymholiad am eich gwefan

